Ymchwilio wedi'r ffrwydrad (Gwifren PA)
Mae gwleidyddion o bob ochr wedi condemnio ymosodiad yng Ngogledd Iwerddon a laddodd blismon ifanc.

Dim ond ers tri mis yr oedd y Pabydd 25 oed, Ronan Kerr, wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon.

Fe gafodd ei ladd wrth iddo fynd i’w gar yn ei gartre’ yn Omagh – roedd y bom wedi ei gosod o dan y cerbyd.

Mudiadau gwerniaethol ymylol sy’n cael y bai am yr ymosodiad – maen nhw wedi bod yn bygwth ymosodiad fel hyn ers tro ac roedd penaethiaid yr heddlu wedi rhybuddio mai mater o amser oedd hi cyn y bydden nhw’n llwyddo.

Ar ei ffordd i Enniskillen

Roedd y plismon ar ei ffordd o Omagh, lle cafodd 29 o bobol eu lladd mewn ymosodiad gan y Gwir IRA yn 1998, i Enniskillen, lle cafwyd un o laddfeydd eraill gwaetha’r Helyntion ar Sul y Cofio yn 1987.

Mae’n ymddangos mai un o amcanion y bomwyr yw atal pobol ifanc o’r gymuned Babyddol a gweriniaethol rhag ymuno gyda’r heddlu.

“Fydd y rhai a gyflawnodd y drosedd ddieflig a llwfr yma ddim yn llwyddo i dynnu Gogledd Iwerddon yn ôl i orffennol gwaedlyd a thywyll,” meddai Prif Weinidog Prydain, David Cameron. “Mae eu gweithredoedd yn cael eu gwrthod gan fwyafrif llethol o bobol o bob rhan o’r gymuned.”

Yn ôl y Taioseach newydd yng Ngweriniaeth Iwerddon, Enda Kenny, roedd yr ymosodwyr yn gweithredu’n groes i ewyllys pobol Iwerddon.