Thusha Kamaleswaran
Mae dyn wedi ei gadw yn y ddalfa heddiw, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dau o bobol, yn dilyn saethu’r ferch fach 5 oed, Thusha Kamaleswaran, a gwr 35 mlwydd oed.

Fe fydd Anthony McCalla, 19, o Oakdale Road, Streatham, yn ymddangos gerbron yr Old Bailey ar Fehefin 10.

Fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Camberwell Green heddiw, wedi ei gyhuddo o saethu’r ferch a’r dyn, Roshan Selvakumar, mewn siop yn Stockwell, de Llundain.