Heddlu
Mae heddlu’n ymchwilio i farwolaeth “amheus” gwraig 80 oed a gafwyd yn farw yn ei chartref yn oriau mân y bore.

Mae Heddlu Swydd Lincoln wedi cadarnhau eu bod nhw’n ystyried y farwolaeth yn un amheus, wedi i gorff yr hen wraig gael ei ganfod yn ei chartref ym mhentref Barrowby ger Grantham heddiw.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran y llu eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad ac yn dal i siarad â phobol yn yr ardal wrth geisio penderfynu sut yn union y bu’r wraig farw. Maen nhw hefyd yn ceisio cysylltu ag aelodau o’i theulu.