Ian Tomlinson yn syth wedi'r digwyddiad
Roedd y plisman a wthiodd werthwr papurau i’r llawr yn fuan cyn iddo farw wedi gorfod wynebu torf fygythiol yn taflu poteli.

Dyna’r dystiolaeth ddiweddara’ yn y cwest i farwolaeth Ian Tomlinson, dyn diniwed a fu farw yn ystod protestidau yn erbyn gwledydd cyfoethog yr G20 yn Llundain.

Fe gafodd clip fideo ei ddangos o gannoedd o bobol yn tyrru i fyny stryd lle’r oedd Pc Simon Harwood yn ceisio dal gafael ar ddyn oedd wedi cael ei ddrwgdybio o achosi difrod i gerbyd yr heddlu.

Taro pen

Roedd y darn o fideo’n dangos y dorf yn ymateb yn ddig ar ôl i ddyn daro ei ben yn erbyn cornel drws un o gerbydau’r heddlu wrth iddo gael ei arwain oddi yno.

Fe glywodd y cwest bod y dorf wedi ffurfio hanner cylch o amgylch yr heddwas a’r dyn ac roedd poteli wedi chwalu wrth draed Pc Simon Harwood.

Er bod lluniau wedi’u dangos o’r plismon yn gwthio Ian Tomlinson i’r llawr, dyw e ddim wedi cael ei erlyn mewn llys.

Ond mae Pc Simon Harwood yn wynebu colli ei swydd os bydd yr heddlu’n penderfynu ei fod wedi camymddwyn.