Arwydd Heddlu Llundain
Mae merch fach yn ymladd am ei bywyd ar ôl cael ei saethu yn ei phen mewn ymosodiad yn Llundain.

Y gred yw mai Thusha Kamaleswaran, 5 oed, yw’r ieuengaf erioed i ddiodde’ o ddigwyddiad saethu yn y ddinas.

Roedd hi mewn siop yn ardal Stockwell pan gafodd hi a pherchennog y siop eu saethu. Fe gafodd Roshan Selvakumar ei saethu yn ei ben ac mae yntau mewn cyflwr “sefydlog ond argyfyngus” yn yr ysbyty.

Mae Heddlu Llundain yn chwilio am dri llanc croenddu a oedd yn ymlid dau arall yn union cyn y saethu yn hwyr nos Fawrth.

Pan aeth y ddau i guddio yn y siop, fe ddaeth un o’r llanciau i’r drws a saethu’n wyllt. Yn ôl llygad-dyst, mae’r tri rhwng 14 ac 17 oed.

Fe ddywedodd cynghorydd lleol fod problem amlwg gyda gangiau yn yr ardal, sy’n rhan o gyngor Lambeth.