Heddlu
Dim ond dau o bob tri o staff yr heddlu sydd yn y ‘rheng flaen’ yn ymladd trosedd yng Nghymru a Lloegr, yn ôl adroddiad gan gorff arolygu’r heddlu.

Ac, yn ôl y Prif Arolygydd, Syr Denis O’Connor, fe fydd hi’n anodd iawn cynnal y lefelau hynny yn y dyfodol gyda’r toriadau gwario’n creu “sialens fawr”.

O’r holl staff yn y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, 68% sy’n gweithio yn y rheng flaen a dim ond 61% o swyddogion heddlu a swyddogion heddlu cymunedol sydd ar gael i’r cyhoedd ac yn  ymateb i achosion brys.

Mae’r gyfran sydd ar gael ar unrhyw un adeg benodol yn amrywio – gyda chyfartaledd o 12% o swyddogion a heddlu cymunedol mewn swyddi lle maen nhw i’w gweld i fod ar gael i’r cyhoedd.

Diffinio ‘rheng flaen’

Yr archwiliad hwn yw’r cyntaf i greu diffiniad o “rheng flaen” – swyddogion sy’n cysylltu â’r cyhoedd bob dydd, yn ymyrryd yn uniongyrchol i gadw pobol yn ddiogel ac yn cynnal cyfraith a threfn”.

Ond roedd Denis O’Connor yn pwysleisio bod staff sydd yn y cefndir hefyd yn allweddol i gyflawni’r gwaith rheng flaen.

“Fe fydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi lluoedd Heddlu drwy gael gwared â biwrocratiaeth a cheisio gweithredu’r fwy effeithiol.” Meddai Nick Herbert, y Gweinidog Heddlu.