Senedd yr Alban
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu chwalfa yn yr Alban, yn ôl arolwg barn newydd.

Os yw’r ffigurau’n gywir, fe fyddai’r Gwyrddion yn cael mwy o seddi na nhw ac yn dal y fantol rhwng y prif bleidiau.

Yn gyffredinol, mae’r pôl gan YouGov i bapur y Scotsman yn dangos bod Alex Salmond a’r SNP yn ennill tir, gan fynd heibio i Lafur yn yr etholaethau unigol.

Mae hyn yn awgrymu newid mawr yn ystod yr wythnosau diwetha’ ar ôl i Lafur fod ymhell ar y blaen.

Er hynny, yn ôl y pôl, nhw sy’n debyg o gael mwya’ o aelodau yn Holyrood, gan berfformio’n gryfach yn y seddi rhanbarthol.

Y sgôr

Mae’r Ceidwadwyr hefyd yn diodde’ gyda phroffwydoliaeth y byddai eu nifer o seddi’n cwympo o 18 i 13. Ond fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i lawr o 16 i 5, gyda’r Gwyrddion yn cael 6.

Os yw’r pôl yn gywir, Llafur fyddai’r blaid fwya’ gyda 57 o seddi o gymharu â 48 i’r SNP ond fe allai’r naill neu’r llall ffurfio Llywodraeth gyda chefnogaeth pleidiau eraill.

Yn yr etholaethau unigol, mae’r pôl yn gosod yr SNP ar ganran o 40 a Llafur ar 39.