Jeremy Hunt
Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi galw ar Gymdeithasau Bêl Droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i beidio â throi eu cefnau ar y syniad o sefydlu tîm Prydeinig ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Jonathan Ford, mai’r nod oedd gwarchod annibyniaeth y gymdeithas.

“Dyw ein barn ni ar y mater ddim wedi newid ac mae’n annhebygol o newid,” meddai Jonathan Ford.

Ond mae llywydd FIFA, Sepp Blatter, wedi dweud na fyddai uno ar gyfer y gemau yn 2012 yn bygwth annibyniaeth y gwledydd cartref.

“Fe fyddai’n siomedig iawn pe bai pob chwaraewr yn dod o Loegr,” meddai Jeremy Hunt.

“Mae Sepp Blatter a Jim Boyce (is-lywydd newydd FIFA) wedi dweud na fydd yna unrhyw fygythiad i’w hannibyniaeth.

“Rwy’n credu ei fod yn bryd  i bêl droed roi’r gwleidyddiaeth o’r neilltu a meddwl am yr athletwyr.”