Mae banc Northern Rock wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n disgwyl y bydd 680 yn rhagor o swyddi yn cael eu colli erbyn diwedd y flwyddyn.

Fe wnaeth y banc golled yn 2010 gan ddweud fod y toriadau yn hanfodol er mwyn dechrau gwneud elw cyn i’r banc gael ei drosglwyddo yn ôl i ddwylo preifat.

Cafodd Northern Rock ei wladoli ym mis Chwefror 2008 ar ôl chwalu ar ddechrau’r argyfwng ariannol.

Roedd yn cyflogi 6,500 o bobol yn 2007, ond erbyn diwedd eleni dim ond tua 2,000 fydd yn cael eu cyflogi yno.

“Mae’r amgylchiadau economaidd a masnachol yn heriol iawn o hyd,” meddai prif weithredwr Northern Rock, Ron Sandler.

“Mae’r farchnad morgeisi yn ddistaw, ac mae’r raddfa llog isel yn dal banciau a chymdeithasau adeiladu yn ôl.

“Er mwyn cyrraedd ein hamcanion mae’n rhaid i ni dorri costau, sy’n rhy uchel o’i gymharu â maint y cwmni – yn anffodus mae hynny’n golygu torri swyddi.”

Ychwanegodd y byddai’r cwmni yn osgoi diswyddiadau gorfodol os yn bosib a chynnig diswyddiadau gwirfoddol yn lle.

“Mae’n gyfnod arall o ansefydlogrwydd i’n gweithwyr, sydd wedi bod drwy lawer iawn dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

Ymateb

Dywedodd swyddog cenedlaethol undeb Unite, David Fleming, bod y cyhoeddiad yn un “gwarthus”.

“Mae’r toriadau diweddaraf yn gam yn rhy bell i’r gweithlu yma sydd eisoes wedi colli dau draean o’i staff.

“Mae staff y cwmni wedi wynebu newid a dim sicrwydd at y dyfodol ers i’r banc bron a chwalu.”