Mae mwy na 200 o bobl yn y ddalfa ar ôl helyntion yn Llundain neithiwr.

Fe ddigwyddodd y gwrthdaro rhwng protestwyr a heddlu yn Sgwâr Trafalgar ar ôl i gannoedd o filoedd gymryd rhan mewn rali a gorymdaith heddychlon gan y TUC yn gynharach yn y dydd.

Fe fu rhwng 200 a 300 o bobl yn ymgasglu’n hwyr y nos yn y sgwâr, gyda rhai’n taflu taflegrau a cheisio difrodi’r cloc Olympaidd yno.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain fod plismyn wedi dioddef “ymosodiadau parhaus” wrth iddyn nhw geisio fynd i’r afael â’r anhrefn a’r ymgais i achosi difrod troseddol.

Esboniodd fod y plismyn wedi defnyddio tactegau ‘amgáu’ mewn ymgais i reoli’r dyrfa, a bod yr ardal wedi ei chlirio erbyn tua chwarter i dri y bore.

Cafodd tua 214 o bobl eu harestio am amrywiaeth o droseddau gan gynnwys troseddau’n ymwneud â’r drefn gyhoeddus, difrod troseddol, tresmasu ymosodol ac anhrefn treisgar, gyda phobl yn y ddalfa mewn amryw o orsafoedd heddlu yn Llundain.

Anafiadau

Cafodd o leiaf 31 o blismyn eu hanafu, gydag 11 ohonyn nhw angen triniaeth yn yr ysbyty, er bod yr anafiadau’n cael eu disgrifio fel rhai “cymharol fân”.

Meddai’r Comander Bob Broadhurst a oedd yn arwain cyrch yr heddlu neithiwr: “Fyddwn i ddim yn eu galw nhw’n brotestwyr. Maen nhw’n cymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol i’w dibenion eu hunain.”

Fe ddywedodd Brendan Barber, ysgrifennydd cyffredinol y TUC, hefyd ei fod yn “gresynu’n fawr” at y trais, a’i fod yn gobeithio na fyddai’n tynnu sylw oddi ar y brotest anferth yn erbyn toriadau.

Roedd y rali ei hun wedi cael ei disgrifio fel “llwyddiant ysgubol” wrth i rhwng 400,000 a 500,000 o weithwyr sector cyhoeddus, myfyrwyr a phensiynwyr orymdeithio trwy Lundain.