Mae trefnwyr protest fawr yn Llundain yn erbyn toriadau gwariant y Llywodraeth yn dweud iddi fod yn “llwyddiant ysgubol” ar ôl i gannoedd o filoedd o bobl gymryd rhan.

Dyma’r digwyddiad mwyaf o’i fath ym Mhrydain ers dros 20 mlynedd.

Fe fu rhwng 400,000 a 500,000 o athrawon, nyrsys, ymladdwyr tân, gweithwyr cyngor a gweithwyr iechyd, myfyrwyr, pensiynwyr a grwpiau ymgyrchu o bob rhan o Brydain yn gorymdeithio trwy ganol Llundain i rali yn Hyde Park.

‘Y Gymdeithas Fawr’

Wrth annerch y protestwyr yn Hyde Park, fe ddywedodd arweinydd Llafur, Ed Miliband, fod y Prif Weinidog David Cameron wedi gweld dicter ‘y gymdeithas fawr’ tuag at bolisïau ei lywodraeth.

 “Fe wyddon ni beth fydd y Llywodraeth yn ei ddweud: gorymdaith y lleiafrif yw hon. Ond maen nhw mor anghywir,” meddai.

“David Cameron: chi oedd eisiau creu’r gymdeithas fawr – dyma’r gymdeithas fawr.

“Y gymdeithas fawr yn unedig yn erbyn yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i’n gwlad. Safwn heddiw nid fel y lleiafrif, ond fel llais y mwyafrif prif-ffrwd yn y wlad yma.”

Roedd y brotest yn heddychlon ar y cyfan, gyda bandiau arian, corau, perfformwyr a dawnswyr yn perfformio ymysg miloedd o orymdeithwyr, llawer ohonyn nhw gyda’u plant, gan chwythu cyrn a chwibannau wrth fynd heibio i’r Dŷ’r Cyffredin.

Ymosodiadau

Fodd bynnag, fe fu grŵp o rai cannoedd o brotestwyr ar wahân yn ymosod ar siopau a banciau yn ardal Oxford Street.

Cafodd ffenestri Topshop a banc HSBC eu torri, a chafodd paent gwyn a photeli gwydr eu taflu at gangen o’r Royal Bank of Scotland.

Dywed yr heddlu fod bylbiau golau wedi eu llenwi ag amonia wedi gael eu taflu at blismyn, gan anafu pump, a bod naw o bobl wedi cael eu harestio.

Fe fu’r grŵp ymgyrchu UK Uncut hefyd yn meddiannu siop Fortnum & Mason yn Piccadilly, gan honni bod y cwmni yn “osgoi” talu trethi.

Dywedodd Brendan Barber, ysgrifennydd cyffredinol y TUC, trefnwyr y brotest ei fod yn “gresynu’n fawr” at y trais, gan ychwanegu ei fod yn gobeithio na fyddai’n tynnu sylw oddi wrth y brotest anferth.

“Dw i ddim yn meddwl y dylai gweithgareddau ychydig gannoedd o bobl dynnu’r sylw oddi wrth y cannoedd o filoedd o bobl sydd wedi anfon neges bwerus at y Llywodraeth heddiw,” meddai.

“Dylai Gweinidogion bellach ailystyried eu holl strategaeth ar ôl y gwrthdystiad heddiw.”