Stryd yn Aberpennar yng Nghwm Rondda yw’r ail le rhataf i brynu tŷ yng Nghymru a Lloegr, cyhoeddwyd heddiw.
Mae tŷ ar stryd Fernhill, Aberpennar yn costio £32,700 ar gyfartaledd, yn ôl arolwg gan gwmni Mousprice.com.
Angle Street yn Burnley yw’r stryd rataf yng Nghymru a Lloegr. Mae tai yno’n costio £32,400 ar gyfartaledd, a gwerthodd un tŷ am £26,000 yn 2010.
Roedd tair stryd arall yn Burnley – Elmwood Street, Spencer Street a Colville Street – ymysg y pump rhataf ar y rhestr.
Strydoedd yng Ngogledd Orllewin Lloegr oedd y rhataf yn y wlad, yn ôl yr arolwg. Mae 13 o’r 20 stryd uchaf yn yr ardal honno.
Dim ond un stryd yn Ne Ddwyrain Lloegr oedd â thai oedd yn costio llai na £50,000 ar gyfartaledd.
Roedd tŷ yn Plantain Court, yn Walnut Tree, ger Milton Keynes, yn costio £45,200.