Llwyfan olew
Mae yna ffrae wedi codi tros ddyfais y Canghellor i ostwng y dreth ar danwydd ceir.

Yn ôl Llafur, fe fydd yn gwneud i’r cwmnïau petrol godi’r pris ymhen ychydig wythnosau ac, yn ôl cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant olew, fe fydd yn atal y broses o greu swyddi.

Ond mae’r gostyngiad o 1c a’r gohirio ar godiadau pellach a gyhoeddwyd yn y Gyllideb wedi cael eu canmol gan fudiadau moduro fel yr RAC a’r AA ac mae Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, yn d weud bod beirniadaeth Llafur yn nonsens.

Yn yr Alban, fe fydd yr SNP yn troi’r pwnc yn bwnc etholiad, gan gyhuddo Llywodraeth San Steffan o wneud cam ariannol â’r wlad trwy godi’r trethi ar gwmnïau Môr y Gogledd.

Fe fydd hynny’n golygu bod y dreth ar elw o’r olew yn codi o 62% i 81%.

Yr Alban ‘yn gorfod talu’

Yn ôl y Prif Weinidog yno, Alex Salmond, mae’r Alban yn gorfod talu am y Gyllideb – y dreth sy’n caniatáu i’r Canghellor ostwng y doll a dileu cynnydd chwyddiant o tua 4c y litr y mis nesa’.

Fe fydd y dreth yn codi tua £4 biliwn ac mae’r SNP’n dweud y byddai defnyddio hanner yr arian hwnnw yn yr Alban yn gostwng pris petrol yno o 50c y litr.

Roedd y cwmnïau olew yn yr Alban yn flin hefyd, gyda’u cynrychiolwyr yn dweud y byddai cynlluniau creu swyddi’n dod i ben am y tro ac y byddai’n rhaid i wledydd Prydain brynu rhagor o olew tramor.

Dadl Llafur a’r Ceidwadwyr

Yn ôl un o lefarwyr economaidd Llafur, Angela Eagle, fe fydd y cwmnïau yn mynd ati i godi prisiau beth bynnag ond mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi gwadu hynny.

Does dim perthynas rhwng y broses o dynnu olew o Fôr y Gogledd a’r broses o werthu tanwydd yn y garejus, meddai Danny Alexander.