Sian O'Callaghan - wedi diflannu
Mae person dienw wedi cynnig £20,000 i ddod o hyd i’r ferch ifanc, Sian O’Callaghan, a aeth ar goll ar ôl gadael clwb nos yn Swindon dros y penwythnos.

Fe gafodd manylion y wobr eu cyhoeddi gan Heddlu Wiltshire sy’n chwilio am y ferch 22 oed a ddiflannodd ar ôl gadael clwb Suju yn Swindon toc cyn tri fore dydd Sadwrn. Roedd wedi bod yno gyda’i ffrindiau.

Does neb wedi ei gweld hi ers iddi adael ardal hen dref Swindon i gerdded hanner milltir adref i’r  fflat roedd yn ei rannu gyda’i chariad, Kevin Reape.

Mae’r heddlu wedi lansio helfa fawr am y weinyddwraig swyddfa ac mae tua 150 o bobol leol wedi ymuno gyda’r plismyn i chwilio mewn coedwig ger tref Malborough.

Roedd gwybodaeth ffôn symudol yn dangos ei bod yng nghyffiniau coetir 4,500 erw, tua 32 munud ar ôl gadael y clwb. Dim ond gyda char y byddai modd gwneud y siwrnai, meddai’r heddlu.