Ceir
Mae pris petrol wedi codi i’w lefel ucha’ erioed, meddai cwmni moduro’r AA.

Am y tro cynta’, medden nhw, mae pris litr o ddisel wedi codi ar gyfartaledd i fwy na £1.40. Mae’n gynnydd o fwy nag 20c yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ a tua 10c ers dechrau’r flwyddyn hon.

“Mae cynnydd o 10c ym mhris disel ers dechrau’r flwyddyn, sy’n cyfateb i £5 i lenwi tanc bach, yn faich anferth ychwanegol ar yrwyr preifat a busnesau,” meddai Llywydd yr AA, Edmund King.

Mae wedi galw eto ar i’r Canghellor ddileu’r cynnydd mewn treth danwydd sydd i fod i ddigwydd ddechrau Ebrill. Mae disgwyl i’r Canghellor, George Osborne, wneud cyhoeddiad yn ei Gyllideb fory.

Mae’r gymdeithas foduro fawr arall, yr RAC, hefyd wedi galw ar y Canghellor i weithredu i reoli pris petrol – maen nhw’n dweud bod eisiau peirianwaith parhaol i reoli’r gost.

“Mae’r prisiau cynyddol yma wrth y pympiau’n chwalu cyllidebau teuluoedd ac yn taro’r economi’n galed.”