Phil Woolas
Ni fydd y cyn Aelod Seneddol Phil Woolas yn wynebu achos llys am ei sylwadau yn ystod Etholiad Cyffredinol 2010, cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw.

Penderfynodd llys etholiadol ddiddymu canlyniad etholiad etholaeth Oldham East a Saddleworth y llynedd.

Roedd Phil Woolas wedi gwneud sylwadau nad oedd yn wir am ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Elwyn Watkins.

Cafodd y cyn-weinidog mewnfudo ei ddiarddel o’i blaid yn ddiweddarach.

Mewn datganiad heddiw, dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod nhw wedi ystyried penderfyniad y llys etholiadol ac nad oedden nhw’n credu y byddai erlyniad pellach o fudd i’r cyhoedd.

“Mae’r llys etholiadol eisoes wedi penderfynu bod Phillip Woolas wedi gwneud datganiadau nad oedd yn wir am ymgeisydd arall,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron.

“O ganlyniad, collodd ei sedd yn San Steffan a chafodd ei wahardd rhag sefyll eto am dair blynedd.”

Dywedodd fod cosb y cyn-AS yn “ddigonol” a’i bod hi’n annhebygol y byddai llys troseddol yn ei gosbi ymhellach.

Er gwaethaf diarddeliad Phil Woolas, enillodd ymgeisydd arall y Blaid Lafur, Debbie Abrahams, y sedd mewn is-etholiad 13 Ionawr eleni gyda mwy o fwyafrif.