Peilonau trydan
Fe ddylai cwmnïau trydan mawr gwledydd Prydain fod yn gwerthu un rhan o bump o’u gallu cynhyrchu, meddai rheoleiddiwr y diwydiant.
Dyw’r cwmnïau mawr ddim wedi bod yn rhoi “chwarae teg” i gwsmeriaid, yn ôl Ofgem ar ôl ymchwiliad pum mis i’w gweithgareddau.
Ac fe fydd yn cynnal ymchwiliad pellach ynglŷn â rhai o brisiau Scottish Power, y prif gyflenwr yng ngogledd Cymru.
Os na fydd y cwmnïau’n gweithredu o fewn wyth wythnos, fe fydd eu hachos yn cael ei anfon at y Comisiwn Cystadleuaeth.
Mae Ofgem yn dweud bod rhaid iddyn nhw gynnig llai o brisiau gwahanol i gwsmeriaid, er mwyn osgoi dryswch.
Roedd yr ymchwiliad wedi dechrau ar ôl iddi ddod yn amlwg bod lefelau elw’r cwmnïau mawr wedi codi i 38%.