Ymgyrchu tros bris petrol (o wefan FairFuelUK)
Mae ymgyrchwyr yn erbyn prisiau tanwydd uchel wedi rhybuddio y gallai dicter pobol fynd tros y tresi.

Fe ddangosodd pôl piniwn newydd bod mwy nag wyth o bob deg o bobol gwledydd Prydain o blaid dileu’r cynnydd nesa’ yn y dreth ar danwydd.

Mae disgwyl y bydd y Canghellor, George Osborne, yn gohirio’r cynnydd yn ei Gyllideb ddydd Mercher ond mae pobol hefyd eisiau gweithredu pellach.

Yn ôl yr arolwg – a oedd wedi ei gomisiynu gan y mudiad ymgyrchu, FairFuel UK – fe fyddai bron hanner yr atebwyr yn fodlon newid eu harferion pleidleisio i gefnogi plaid a fyddai’n gostwng pris petrol.

Mewn rhannau o Gymru, mae’r pris petrol bellach ymhell tros £1.30 a phris litr o ddisel yn agos at £1.40.

“Mae hyn yn profi bod pobol yn poeni’n arw am y dreth danwydd ac mai dyma’r pwnc gwleidyddol mwya’ yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd,” meddai Quentin Wilson, arweinydd FairFuel UK.

“Os nad yw’r Llywodraeth yn rheoli’r pwnc llosg yma yn y Gyllideb, fe allai dicter cenedlaethol fynd tros y tresi.”