Wrth i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi ei ‘Gyllideb ar gyfer twf’, mae disgwyl gostyngiad yn rhagolygon swyddogol y Llywodraeth ar gyfer twf economaidd.

Roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a gafodd ei sefydlu gan y Llywodraeth er mwyn cynnal asesiadau annibynnol o’r economi, wedi darogan ym mis Tachwedd y byddai cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) Prydain yn tyfu 2.1% yn 2011 a 2.6% y flwyddyn nesaf.

Ond mae arbenigwyr economaidd o’r farn fod y rhagolygon hyn yn rhy optimistaidd.

Dywed Philip Shaw, economegydd gyda Investec Securities, na fyddai’n synnu petai’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gostwng ei ragolygon am 2011 o 2.1% i 1.7%, ac yn gostwng y rhagolygon am y flwyddyn nesaf yn ogystal.

Ers i’r rhagolygon diwethaf gael eu gwneud mae’r economi wedi crebachu 0.6% yn chwarter olaf 2010, yn rhannol oherwydd tywydd gaeafol mis Rhagfyr.

Er bod arwyddion o adferiad economaidd yn ystod misoedd cynnar y flwyddyn, dyw effeithiau toriadau gwario’r llywodraeth ddim wedi cael eu teimlo eto, ac mae gwariant defnyddwyr hefyd yn cael ei wasgu wrth i gyflogau fethu â dal i fyny gyda chwyddiant.

Mae’r digwyddiadau diweddar yn Japan a Libya wedi gwaethygu’r broblem trwy wthio pris olew a nwy i fyny.

Dywedodd Philip Shaw hefyd y bydd yr ŵyl banc ychwanegol ar ddiwrnod y briodas frenhinol yn cael effaith niweidiol ar ail chwarter 2011.