Petrol - y Llywodraeth yn gwneud ffortiwn
Mae’r cwmni moduro, yr AA, wedi galw am gymorth i fodurwyr sy’n wynebu cynnydd pellach o hyd at 5c y litr mewn treth ar danwydd.

Maen nhw’n dweud bod y pris ar y pwmp eisoes wedi codi mwy na 4c yn y mis diwetha’ ac y gall y Llywodraeth ennill cymaint ag £1.25 biliwn yn ychwanegol oherwydd y cynnydd.

Mae disgwyl y bydd y Canghellor, George Osborne, yn cyhoeddi rhai mesurau i helpu gyrwyr yn y Gyllideb yr wythnos nesa’ – un posibilrwydd yw peidio â chodi rhagor ar y dreth danwydd.

Yn ôl yr AA, mae’r gost pob mis i deulu nodweddiadol gyda dau gar petrol wedi codi £8.64 ac mae cost litr o disel wedi codi i £138.98c ar gyfartaledd trwy wledydd Prydain.

Y dreth danwydd a Treth ar Werth sy’n gyfrifol am 5c o’r cynnydd ers dechrau’r flwyddyn, meddai’r cwmni.