Nick Clegg
Fe fydd Dirprwy Brif Weinidog Prydain yn dechrau ymgyrchu o ddifri heddiw o blaid newid y system bleidleisio – er bod rhai’n dweud y bydd yn gwneud mwy o ddrwg nag o les.
Nick Clegg fydd un o’r siaradwyr wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol lansio’u hymgyrch nhw o blaid y Bleidlais Amgen, AV.
Ynghynt yn yr wythnos, roedd yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, wedi galw ar i gefnogwyr Llafur beidio â gwrthod y syniad oherwydd bod Nick Clegg yn ei gefnogi.
Clegg v Cameron
Fe fydd hefyd yn golygu bod y Dirprwy Brif Weinidog a’r Prif Weinidog yn mynd ben ben â’i gilydd – mae David Cameron a’r rhan fwyaf o Geidwadwyr yn gwrthwynebu’r syniad.
Gan Nick Clegg hefyd y mae mwya’ i’w golli – roedd cael rhyw fath o newid yn y drefn bleidleisio’n rhan hanfodol o benderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol i fynd yn rhan o Lywodraeth y Glymblaid yn Llundain.
Mae dyfalu y byddai methu â sicrhau pleidlais ‘Ie’ yn annog rhai o’r blaid i wrthryfela.
Yn swyddogol, mae’r Democratiaid eisiau mynd lawer ymhellach at system bleidleisio cyfrannol go iawn – cyn yr Etholiad, roedd Nick Clegg wedi galw AV yn “gyfaddawd truenus”.
Fe fyddai’n golygu bod pleidleioswyr yn gosod ymgeiswyr mewn etholaeth mewn trefn 1,2,3 ac yn y blaen gyda’r ail, trydydd a’r pedwerydd dewis yn cael eu cyfri wrth i’r ymgeisydd ar y gwaelod adael y ras.
‘Nid refferendwm am unigolion’
Fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn pwysleisio nad pleidlais ynglŷn ag unigolion yw’r refferendwm ar Fai 5, ond un am wella’r system bleidleisio.
“Nid amdanon ni y mae hyn, na hyd yn oed am ein pleidiau,” meddai. “Ymhell ar ôl i enwau Ed Miliband, David Cameron a Nick Clegg bylu yn y cof, fe fydd system bleidleisio newydd a gwell yn ei lle.
“Nid brwydr rhwng chwith a de yw hon … dyma frwydr rhwng diwygwyr a cheidwadwyr.”