Logo'r brotest ddiwedd y mis
Mae nifer y bobol ddi-waith ar gyfer pob swydd wag ddwywaith yn uwch mewn etholaethau Llafur na rhai Ceidwadol, meddai’r TUC.

Mae Cyngres yr Undebau wedi cyhoeddi ymchwil newydd heddiw, ar ddiwrnod cyhoeddi’r ffigurau diweithdra diweddara’.

Mae’n dangos faint o bobol sy’n hawlio budd-dal chwilio am waith am bob swydd sydd ar gael ym mhob etholaeth – mewn etholaethau Llafur, mae’r ffigwr yn 9.8, yn rhai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 6.1 ac mewn rhai Ceidwadol yn 4.5.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod 20 o etholaethau yng Nghymru – hanner y cyfanswm – ymhlith y rhai lle mae lefel diweithdra wedi codi fwya’ yn ystod y misoedd diwetha’, a bron pob un o’r rheiny’n rhai Llafur.

‘Rhybudd arall’ meddai Barber

“Mae’r ffigurau diweithdra heddiw’n debyg o roi rhybudd cry’ arall ynglŷn â’r argyfwng cynyddol ym maes swyddi,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Brendan Barber.

“Hyd yn hyn ymateb y Llywodraeth [yn San Steffan] yw torri cynlluniau allweddol i greu gwaith a hawlio bod digon o swyddi ar gael.

“Os bydd gweinidogion yn edrych y tu hwnt i’w hetholaethau eu hunain, fe fyddan nhw’n gweld bod miliynau o bobol yn methu â chael gwaith ac mae’r rhai sydd yn poeni am y dyfodol.”

Y cefndir

Mae’r ffigurau wedi eu seilio ar nifer y bobol sy’n  hawlio budd-dal chwilio am waith a nifer y swyddi sy’n cael eu hysbysebu mewn Canolfannau Gwaith.

Mae’r adroddiad yn gam arall yn ymgyrch yr undebau’n erbyn toriadau gwario’r Llywodraeth wrth iddyn nhw baratoi am rali fawr yn Llundain ar 26 Mawrth.