Logo'r Prudential, noddwyr yr ymchwil
Fe fydd un o bob pump o bobol sy’n ymddeol eleni’n dibynnu’n llwyr ar ben sïwn y wladwriaeth – ac mae’r sefyllfa’n waeth fyth yng Nghymru.

Yma, mae’r ffigwr yn nes at un o bob tri gyda 29% o’r rhai  a holwyd ar gyfer arolwg yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw fath o bensiwn arall.

Roedd yr arolwg wedi ei gomisiynu gan y cwmni ariannol, Prudential, sy’n gwerthu pensiynau preifat, ac roedd wedi holi mwy na 1,000 o bobol sy’n bwriadu ymddeol ym mis Rhagfyr eleni.

Cymru – y gwaetha’

Cymru oedd  waetha’ trwy wledydd Prydain o ran dibyniaeth ar bensiwn y wladwriaeth sydd ar hyn o bryd ychydig tros £97 yr wythnos.

Trwy wledydd Prydain yn gyffredinol, roedd y ffigwr tuag 20% ond, yn ôl y Prudential, roedd pobol hefyd yn anwybodus am faint y pensiwn gwladol.

Roedd chwarter y rhai a holwyd yn credu ei fod yn sylweddol uwch nag y mae mewn gwirionedd ac 13% “heb syniad o’i faint”

Roedd y ffigurau’n uwch ymhlith merched hefyd, gyda 28% am orfod dibynnu ar bensiwn y wladwriaeth.