Mae tocynnau Gemau Olympaidd Prydain 2012 yn mynd ar werth heddiw.

Dywed Cadeirydd y Gemau, yr Arglwydd Coe, ei fod yn hyderus fod trefnwyr mewn “sefyllfa dda” i ddelio â’r galw am docynnau gyda 499 o ddiwrnodau i fynd.

“Dw i’n meddwl y bydd pobl yn edrych ar hwn fel un o’r momentau hynny all newid bywydau ac y bydd pobl eisiau bod yno,” meddai.

Mae dros 2.5 miliwn o bobl wedi cofrestru ar wefan gwybodaeth tocynnau Gemau Llundain  ac mae tua 2 filiwn wedi dweud ei bod nhw eisiau gwylio cystadlaethau trac y Gemau.

Fe fydd y 6.6 miliwn o docynnau ar gael i gyd – a’r prisiau’n amrywio o £20 i £2,012.

Fe fydd cefnogwyr yn talu hyd at £2,012 ar gyfer y seremoni agoriadol, hyd at £725 ar gyfer cystadlaethau rhedeg 100m a rhwng £50 a £325 am gystadlaethau rownd terfynol beicio a thrac.

Tynnu enwau o het fydd yn penderfynu pwy sy’n cael tocynnau i’r cystadlaethau mwyaf poblogaidd.