Gallai uwch-swyddogion yn y sector gyhoeddus gael 10% o’u tâl wedi’i ddal yn ôl os bydd cynigion radical newydd yn cael eu derbyn.

Mae adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan y Llywodraeth yn argymell mai dim ond ar ddiwedd y flwyddyn y byddai’r swyddogion hyn yn derbyn 10% o’u tâl yn ôl – a hynny’n amodol ar “berfformiad da”.

Fe wnaeth Adolygiad Tâl Teg hefyd alw am fwy o graffu cyhoeddus ar dâl uwch swyddogion a phenaethiaid. Mae’r Adroddiad yn awgrymu y dylai cyrff cyhoeddus gyhoeddi adroddiad blynyddol yn mynd i’r afael â faint mae Prif Weithredwyr yn ei dderbyn o’i gymharu â chyflogau gweithwyr.

Byddai’r cynllun yma, y cyntaf o’i fath yn y byd, yn effeithio ar tua 2,000 o uwch swyddogion, ond gallai ymestyn i ddegau ar filoedd o reolwyr ar sail wirfoddol.

O dan y cynllun, yr unig ‘fonws’ y byddai uwch swyddogion yn gymwys amdano fyddai’r rhan o’u cyflog a oedd wedi ei ddal yn ôl.

Mae’r economegydd Will Hutton – sy’n arwain yr Adolygiad Tâl Teg – wedi dweud y bydda modd ei weithredu o fewn pedair blynedd ac y byddai’n tynnu peth o’r pwysau oddi ar y dadleuon am dâl penaethiaid yn y sector cyhoeddus.