Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Parhau y mae ymdrechion Prydain i geisio cael gwaharddiad hedfan awyrennau milwrol dros Libya.
Gyda phwysau cynyddol am weithredu rhyngwladol llymach yn erbyn y Cyrnol Muammar Gaddafi, fe fu’r Ysgrifennydd Tramor William Hague mewn trafodaethau gyda gwledydd y G8 ym Mharis neithiwr.
Mae cynnig drafft newydd sy’n cynnwys gwaharddiad hedfan yn cael ei lunio gan Brydain a Ffrainc a allai gael ei gyflwyno i Gyngor Diogelwch y Cenedloedd Unedig heddiw neu yfory.
Fe ddywedodd William Hague ddoe nad oedd cymeradwyaeth y Cyngor Diogelwch yn hanfodol – ond y byddai’n ffordd “lanach a symlach” o sicrhau cyfreithlondeb.