Mae’r nifer o dwristiaid i’r Deyrnas Unedig yn lleihau yn y cyfnod sy’n arwain at Gemau Olympaidd Llundain y flwyddyn nesaf yn ôl trefnwyr gwyliau. 

Mae prisiau uchel gwesty, trethi ac anawsterau i gael visas yn golygu bod llai o bobl yn dewis treulio eu gwyliau yn y Deyrnas Unedig yn ôl Cymdeithas Trefnwyr Teithiau Ewrop (ETOA). 

Daw adroddiadau o rai marchnadoedd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, am anawsterau dod o hyd i ystafelloedd gwag yn y Deyrnas Unedig am brisiau ymarferol yn ystod cyfnod y Gemau. 

 Fe ddywedodd y gymdeithas bod trefnwyr y Gemau wedi sicrhau 40% o ystafelloedd o dan brisiau arferol y farchnad a bod perchnogion yn ceisio gwneud iawn am y colledion yna trwy godi prisiau. 

 Fe ychwanegodd Cymdeithas Trefnwyr Teithiau Ewropeaidd bod nifer o drefnwyr teithiau yn gollwng Llundain fel cyrchfan dwristaidd am y rhan fwyaf o 2012. 

 Mae’r gymdeithas hefyd wedi dweud bod y Deyrnas Unedig yn colli tua 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn oherwydd anawsterau i gael fisas.

 Roedd y gymdeithas yn credu bod y system fisas yn fiwrocrataidd ac yn rhwystro ymwelwyr o Tsiena ac India. 

 “Mae miloedd o swyddi’n cael eu colli trwy safiad sarrug a dieithrio tuag at ein cwsmeriaid,” meddai cyfarwyddwr gweithredol ETOA, Tom Jenkins.