Mae tafarnwyr yn apelio ar y Llywodraeth i beidio â chynyddu treth ar gwrw gan ddadlau bod astudiaeth newydd yn dangos bron i filiwn o bobl yn dibynnu ar gwrw a thafarnau am waith.

Mae Cymdeithas Cwrw a Thafarnau Prydain (BBPA) yn honni bod y diwydiant yn chwarae rhan hanfodol yn yr economi, ac yn rhybuddio am effaith unrhyw gynnydd yn y dreth ar gwrw yn y gyllideb yr wythnos nesaf.

Mae ymchwil y BBPA yn dangos bod 11,000 o swyddi yng nghanol dinas Llundain yn dibynnu ar dafarnau, 5,700 yn etholaeth Canol Manceinion, 5,500 yn Birmingham Ladywood a 5,300 yn etholaeth Riverside yn Lerpwl.

Mae cyfanswm o 980,000 o weithwyr yn dibynnu ar gwrw a thafarnau, ac mae’r diwydiant yn ychwanegu mwy na £21 biliwn at economi Prydain bob blwyddyn, yn ôl adroddiad y gymdeithas.

“Mae’r ffigurau yma’n dangos effaith mor anferthol cwrw a thafarnau, yn enwedig o safbwynt swyddi lleol,” meddai Brigid Simmonds, prif weithredwr y BBPA. “Mae cwrw’n hanfodol i’r economi ac mae tafarnau’n galon i’n cymunedau.

“Y peth olaf y mae ar dafarnau lleol a mynychwyr tafarnau ei angen yw cynnydd pellach yn y dreth ar gwrw yn y Gyllideb yr wythnos nesaf, pan allen ni yn lle hynny fod yn arwain yr economi allan o ddirwasgiad a chreu swyddi lleol. Mae angen i’r Llywodraeth feddwl eto.”

Mae’r BBPA yn disgwyl cynnydd o 7% mewn treth cwrw oherwydd esgynnydd treth cwrw’r Llywodraeth o 2% o gynnydd uwchlaw chwyddiant.