Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Mae’n bryd i’r gymuned ryngwladol benderfynu os ydi hi am ymyrryd yn filwrol ai peidio yn Libya, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor William Hague.

Ar ôl i’r Gynghrair Arabaidd gefnogi galwadau am waharddiad hedfan yn y wlad, dywedodd William Hague y dylai’r gymuned ryngwladol ystyried ceisiadau’r gwrthryfelwyr am help i warchod y boblogaeth rhag awyrennau rhyfel y Cyrnol Muammar Gaddafi.

Dywedodd hefyd y gallai llywodraeth Prydain ystyried arfogi’r gwrthryfelwyr i’w helpu nhw oresgyn grym milwrol cryfach lluoedd Gaddafi.

“Rydyn ni’n cyrraedd dydd o brysur bwyso ar beth sy’n digwydd nesaf,” meddai William Hague, sy’n cyfarfod cyd-weinidogion tramor gwledydd y G8 yn Paris heno.

“Mae gwaharddiad hedfan yn amlwg yn un o’r prif awgrymiadau. Dyw hynny ddim yn ateb i bopeth, ond mae’r Gynghrair Arabaidd wedi galw am hynny ac mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i’r gymuned ryngwladol ei ystyried.”

Dywedodd mai’r ffordd “lanaf a symlaf” o sicrhau sail gyfreithiol ar gyfer gwaharddiad hedfan fyddai cynnig yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, ond nad oedd hynny’n hanfodol o angenrheidrwydd.

“Mewn achosion o angen dyngarol enfawr a llethol, mae gwledydd yn gallu gweithredu o dan gyfraith ryngwladol, hyd yn oed heb gynnig yn y Cyngor Diogelwch,” meddai.