Nick Clegg
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, wedi addo amddiffyn “enaid” ei blaid yn eu cynhadledd wanwyn heddiw.

Cyfaddefodd y Dirprwy Brif Weinidog ei fod o wedi gorfod cefnogi “rhai penderfyniadau na fyddwn i wedi ei gwneud ar fy mhen fy hun”.

Ond ceisiodd leddfu pryderon aelodau ei blaid ar lawr gwlad drwy fynnu nad oedd y blaid wedi colli ei hunaniaeth. “Dydw i heb newid o gwbl,” meddai.

Treuliodd Nick Clegg y rhan helaeth o’i araith 40 munud yn amddiffyn ei arweinyddiaeth wrth gloi cynhadledd y blaid yn Sheffield.

Roedd aelodau ei blaid wedi pleidleisio bron yn unfrydol o blaid gwrthwynebu cynlluniau’r Ceidwadwyr i ddiwygio y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Roedden nhw hefyd yn anhapus gyda’r cynllun i godi ffioedd dysgu, sydd wedi arwain at brotestiadau mawr gan fyfyrwyr.

Dywedodd Nick Clegg na fyddai “cwtsio blanced gyffyrddus bod yn wrthblaid” wedi gwneud lles i neb.

“Mae fy mywyd i wedi newid yn sylweddol ers yr etholiad diwethaf, ond dydw i heb newid o gwbl,” meddai Nick Clegg.

“Roedden ni’n gwybod ym mis Mai nad oedden ni wedi dewis y llwybr hawdd. Ond fe wnaethon ni ddewis y llwybr cywir.

“Ydi, mae bod mewn llywodraeth gyda’r problemau yr ydym ni wedi eu hetifeddu yn anodd. Mae esbonio pam fod toriadau yn bwysig yn anodd.

“Dyw bod mewn clymblaid gyda phlaid arall ddim yn hawdd chwaith.

“Mae’n rhaid i ni gyfaddawdu ac esbonio penderfyniadau na fydden ni wedi eu gwneud ar ein pennau ein hunain.

“Ond bob diwrnod rydw i’n gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod popeth ydyn ni yn ei wneud yn ffyddlon i’n gwerthoedd ni.”

Ymateb

Dywedodd yr aelod o Gabinet yr wrthblaid, Caroline Flint, fod araith Nick Clegg yn “gwbl ddiystyr”.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sownd yng nghist y car sy’n teithio yn y cyfeiriad anghywir – a’r Ceidwadwyr sydd wrth y llyw.

“Rhaid i bobol Cymru a’r Alban anfon neges i David Cameron yn yr etholiadau, drwy bleidleisio dros y Blaid Lafur – yr unig blaid flaengar sydd ar ôl.”