Mae un ym mhob saith o fyfyrwyr israddedig Prifysgol Rhydychen yn dod o gefndir ‘tlawd’, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan y brifysgol yn dangos fod 1,283 (13.5% ) o’r 9,505 o fyfyrwyr astudiodd yno yn 2009/10 yn dod o gartrefi oedd ag incwm is na £25,000 y flwyddyn.

Roedd llai na un ymhob 10 – tua 935 o fyfyrwyr sy’n astudio am eu gradd gyntaf – yn dod o gartrefi sydd ag incwm blynyddol is na £16,290.

Roedd y ffigyrau hefyd yn dangos fod 55.4% o fyfyrwyr Rhydychen wedi mynd i ysgolion y wladwriaeth, cynnydd o 1.5% ar y flwyddyn flaenorol.

“Rydyn ni’n bles fod y ffigyrau ar gyfer 2010 yn dangos bod nifer y myfyrwyr aeth i ysgolion y wladwriaeth ar gynnydd,” meddai Mike Nicholson, llefarydd ar ran y brifysgol.

“Serch hynny mae’r gwahaniaeth mewn graddau ar draws mathau gwahanol o ysgolion yn her.

“Mae 33% o’r myfyrwyr sy’n cael graddau AAA yn eu harholiadau Safon Uwch yn dod o ysgolion annibynnol.”

Mae17,300 o bobol eisoes wedi gwneud cais i astudio yn Rhydychen eleni, medden nhw.