Mae cwmnïau hedfan o Brydain wedi canslo teithiau i Tokyo heddiw yn dilyn y daeargryn dinistriol yn Japan.
Penderfynodd cwmni British Airways na ddylai awyren oedd ar ei ffordd i faes awyr Hareda Tokyo adael maes awyr Heathrow bore ma.
Mae’r cwmni hefyd wedi canslo awyrennau i faes awyr Narita Tokyo.
Mae disgwyl i ehediadau o Hareda a Narita lanio’n ddiogel ym Mhrydain yn ddiweddarach heddiw. Roedden nhw wedi gadael cyn i’r daeargryn daro.
Mae cwmni Virgin Atlantic, sydd hefyd yn hedfan o Narita i Heathrow, wedi canslo ehediadau i Tokyo heddiw.
“Mae Narita tua awr o ganol Tokyo ac rydyn ni wedi canslo ehediad yno ac yn ôl heddiw,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.
“Mae gyda ni ehediad i Tokyo a gadawodd hwnnw cyn y daeargryn ac fe fydd yn dychwelyd brynhawn ma.”
Dywedodd llefarydd ar ran British Aiways mai “rhagofal” oedd canslo eu teithiau i feysydd awyr Tokyo.
Mae yna bryderon y gallai’r tsunami gyrraedd Awstralia, Mecsico, a Hawaii. Mae BA a Virgin wedi dweud eu bod nhw’n cadw llygad ar yr effaith ar wledydd eraill.