David Camero
Mae Prif Weinidog Prydain wedi rhoi sicrwydd na fydd y BBC yn cael gwario llai a llai o arian ar S4C.

Mewn cyfweliad â Golwg, mynnodd y Prif Weinidog y byddai’n atal y BBC rhag tangyllido’r sianel.

“Fe wnawn ni’n siwr nad ydy hynny’n digwydd,” meddai David Cameron. “Llywodraeth Geidwadol wnaeth greu S4C, rydan ni’n credu yn S4C.”

Ond dywedodd y Prif Weinidog fod cynllun ei Lywodraeth i docio 24% o gyllideb S4C dros bedair blynedd yn un teg.

“Mewn cyfnod o bennu gwariant anhygoel o anodd, pan oedd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn – mae Adran Ddiwylliant, Chwaraeon a Chyfryngau, sy’n gyfrifol am S4C, wedi gorfod torri ei chostau gweinyddol ei hun gan rywbeth fel 50% – felly rydan ni’n credu ein bod ni wedi diogelu S4C.

“Rydan ni’n credu y bydd y trefniant yma gyda’r BBC yn diogelu ei dyfodol – rhywbeth sy’n allweddol bwysig. Ac oes, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni sicrhau fod rheolaeth olygyddol a’r ffordd mae [S4C] yn comisiynu rhaglenni yn gwbwl annibynol dan y trefniadau hyn.”

Darllenwch weddill y cyfweliad yng Nghylchgrawn Golwg, 10 Mawrth