Mae llythyr gan Aelod Seneddol Ceidwadol yn gofyn am enwau darlithwyr sy’n dysgu myfyrwyr am Brexit wedi cael ei feirniadu.

Roedd Chris Heaton-Harris, yr aelod seneddol dros Daventry yn Swydd Northampton, wedi anfon y llythyr yn gofyn am restr o Athrawon fel rhan o ymchwil i agweddau at yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae e wedi cael ei gyhuddo o ‘McCarthyistiaeth’ a ‘Leninistiaeth’.

Dywedodd y Gweinidog Prifysgolion, Jo Johnson na ddylai’r llythyr fod wedi cael ei anfon oherwydd ei fod e bellach yn agored i gael ei gamddehongli.

Mae hi’n gofidio y gallai arwain at feddwl bod Llywodraeth Prydain yn ceisio sensro’r hyn sy’n cael ei ddysgu mewn prifysgolion.

Dywedodd Jo Johnson wrth raglen Today ar Radio 4: “Mae Chris wedi bod ynghlwm wrth y cwestiwn Ewropeaidd ers nifer fawr o flynyddoedd. Doedd e fwy na thebyg ddim wedi gwerthfawrogi’r graddau y byddai hyn yn cael ei gamddehongli.

“Dw i’n sicr bod Chris yn difaru hyn yn fawr. Mae’r Llywodraeth yn hollol ymrwymedig i ryddid academaidd a rhyddid barn yn ein system prifysgolion.

“Dw i’n credu na ddylid fod wedi anfon llythyr a allai fod wedi cael ei gamddehongli yn y fath fodd.”

Sensro

Mae nifer o benaethiaid prifysgolion wedi mynegi pryder fod y cais gan Chris Heaton-Harris, sy’n gefnogwr Brexit, yn ymgais i sensro’r hyn sy’n cael ei ddysgu mewn prifysgolion.

Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Rhydychen, yr Arglwydd Patten fod Chris Heaton-Harris yn euog o “Leninistiaeth ynfyd”.