Mae iechyd a diolgelwch “o dan ymosodiad” wrth i doriadau i arolygon iechyd a diogewlch roi gweithwyr o dan risg, yn ôl adroddiad newydd.

Wrth ddynodi deugain mlynedd ers cyflwyno’r Ddeddf Cynrychiolwyr Diogelwch yn 1977, a sicrhaodd fod gan gynrychiolwyr iechyd a diogelwch yr undebau hawliau cyfreithiol, mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) eleni wedi mynd ati i nodi pwysigrwydd y gwaith sy’n cael ei wneud o dan y ddeddf.

Yn ôl y TUC, mae tua 100,000 o swyddogion iechyd a diolgelwch lleol yn y Deyrnas Unedig yn sicrhau bod damweiniau yn y gweithle yn cael eu lleihau, gan arbed canoedd ar filoedd o bunnoedd i’r economi yn flynyddol.

Maen nhw hefyd yn mynnu bod lefel y damweiniau sy’n digwydd mewn gweithleoedd sydd gyda phwyllgorau iechyd a diogelwch undebol, yn tueddu i fod yn hanner y lefel mewn gweithleodd eraill – gyda’r nifer o ddamweiniau angheuol yn llai hefyd.

Iechyd a diogelwch yn “rhwystr” i rai

Ond yn ôl y Prif Ysgrifennydd, Frances O’Grady, mae’r nifer o doriadau sy’n digwydd yn y sector yn dangos bod iechyd a diogelwch “o dan ymosodiad”, a hynny gan y gwleidyddion a’r cyflogwyr hynny sy’n gweld y canllawiau fel “rhwystr”.

“Er hyn”, meddai, “mae cyflogwyr da yn barod i weithio gydag undebau, ac yn gwybod y manteision y mae cynrychiolwyr diogelwch yn dod i’r gwethle.”