Michel Barnier (AG Gymnasium Melle CCA3.0)
Mae prif drafodwr yr Undeb Ewrpoeaidd wedi rhybuddio y bydd hi’n cymryd “blynyddoedd” i gael cytundeb masnachol gyda gwledydd Prydain ar ôl Brexit.

Ac, yn ôl Michel Barnier, fe fydd “peryglon” yn y broses gan gynnwys cael cytundeb pob un o’r 27 gwlad yn yr Undeb.

Ac roedd yn wfftio barn Prif Weinidog Prydain, Theresa May, y gallai’r Deyrnas Unedig adael heb gytundeb pontio.

Trafodaethau ‘anodd’

Wrth siarad gyda phapur newydd Les Echoes yn Ffrainc, fe ddywedodd Michel Barnier y bydd ail ran y trafodaethau yn anodd – gan eu bod ynglŷn â gwahanu gwledydd yn hytrach na dod at ei gilydd.

Roedd yn ymateb i ddatganiadau gan Theresa May yn Nhŷ’r Cyffredin pan awgrymodd hi y gallai Brexit ddigwydd heb gyfnod pontio, os nad oedd cytundeb masnachol wedi’i setlo.

Yn ôl Michel Barnier, fe allai gymryd blynyddoedd i gael cytundeb, ond fe fyddai cyfnod pontio’n bosib os oedd cyfeiriad clir.