Theresa May (Llun: PA)
Mae Theresa May wedi dweud wrth Aelodau Seneddol ei bod hi’n teimlo’n  “bositif” ynglŷn â’r cynnydd a wnaed yn y trafodaethau Brexit wythnos ddiwethaf.

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin ynglŷn â’i chyfarfod gydag arweinwyr Ewrop ym Mrwsel dywedodd y Prif Weinidog: “Rwy’n uchelgeisiol ac yn bositif am ddyfodol Prydain a’r trafodaethau yma.

“Os ydym am gymryd cam ymlaen gyda’n gilydd mae’n rhaid i hynny fod ar sail ymdrech ar y cyd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd (UE).”

Ond fe ychwanegodd Theresa May eu bod nhw’n paratoi ar gyfer “pob posibilrwydd” gan ei gwneud yn glir bod Brexit heb gytundeb yn dal i fod yn opsiwn.

“Ond rwy’n hyderus y gallwn ni negodi partneriaeth newydd ac arbennig rhwng y DU a’n cyfeillion yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyna yw fy nod. A dyna yw nod y Llywodraeth hon.”

Ychwanegodd ei bod eisiau rhoi “pobl yn gyntaf” wrth drafod hawliau dinasyddion a bod “cynnydd sylweddol” wedi cael ei wneud ar fater ffin Gogledd Iwerddon.