Mae dyn o’r Alban gafodd ei ddedfrydu i dri mis o garchar yn Dubai am “gyffwrdd clun dyn arall” bellach wedi’i ryddhau.

Mi gafodd Jamie Harron, 27 oed, o Stirling yn yr Alban ei arestio ym mis Gorffennaf am iddo roi ei law ar glun dyn arall, gan ddweud iddo wneud hynny er mwyn osgoi tywallt ei ddiod mewn tafarn brysur.

Mi’r oedd Jamie Harron wedi bod yn gweithio yn Afghanistan ac wedi aros am ddeuddydd yn Dubai.

Mi gafodd ei garcharu yn wreiddiol am bum diwrnod a’i ryddhau ar fechnïaeth gyda’i basbort wedi’i gymryd oddi arno.

Ond mae’n debyg fod yr heddlu wedi rhoi gwybod iddo ddydd Llun (Hydref 23) fod yr achos yn ei erbyn wedi’i ollwng ac y gallai gasglu ei basbort.