Llun: PA
Mae un o swyddogion yr Undeb Ewropeaidd wedi gwadu cyhuddiad ei fod wedi rhyddhau manylion i’r wasg am drafodaeth rhwng Prif Weinidog y Deyrnas Unedig a Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.
Yn ôl Martin Selmayr, sydd wedi’i gyhuddo gan yr ymgynghorydd gwleidyddol, Nick Timothy, o ddatgelu manylion y sgwrs, mae’r honiadau yn “anwir”.
Daeth y cyhuddiad wedi i’r papur Almaenaidd, Frankfurter Allgemeine Zeitung (FAZ), gyhoeddi manylion am sgwrs rhwng Theresa May a Jean-Claude Juncker, wythnos ddiwethaf.
Mae FAZ yn honni bod Theresa May wedi “erfyn am gymorth” ac mae’r papur yn dweud ei bod hi’n “bryderus” ac yn “ddigalon”.
Trafodaethau
Yn dilyn y cyfarfod ar Hydref 16, dywedodd Theresa May a Jean-Claude Juncker mewn datganiad ar y cyd eu bod wedi cytuno i “gyflymu” trafodaethau dros Brexit.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos cytunodd Arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd y byddan nhw’n dechrau paratoi ar gyfer trafodaethau dros berthynas masnach newydd rhwng Ewrop a Phrydain.