Mae dynes 23 oed wedi’i chyhuddo o lofruddio bachgen deunaw mis oed a syrthiodd o ffenest adeilad chwe llawr yng ngogledd Lloegr.
Mae disgwyl i Gemma Procter ymddangos gerbron llys yr ynadon heddiw mewn cysylltiad a marwolaeth y bachgen bach Elliot Procter yn Bradford dros y penwythnos.
Mi gafodd Heddlu Gorllewin Sir Efrog eu galw i’r digwyddiad tua 5.10yh ddydd Sadwrn (Hydref 21).
Mae Gemma Procter wedi gwadu llofruddio’r bachgen bach.