Mae Jeremy Corbyn wedi beirniadu aelod seneddol Llafur am ddefnyddio iaith rywiaethol mewn digwyddiad cyhoeddus ar ôl i’r helynt gael ei recordio mewn bar.

Roedd sylwadau Clive Lewis, aelod seneddol De Norwich, yn “gwbl annerbyniol”, meddai, ar ôl iddo orchymyn dyn i “fynd ar ei liniau”, gan orffen y gorchymyn gyda’r gair ‘bitch’.

Roedd Jeremy Corbyn wedi cael ei annog gan y Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb, Justine Greening i feirniadu’r sylwadau.

‘Cwbl anghywir’

Ar ymweliad â Norwich, dywedodd Jeremy Corbyn wrth y BBC fod y digwyddiad yn “gwbl anghywir” a bod sylwadau Clive Lewis yn “gwbl annerbyniol”.

Ychwanegodd fod Clive Lewis wedi ymddiheuro wrtho ond fod neges i bawb yn y digwyddiad.

“Dydy’r math yma o iaith ddim yn dderbyniol o dan unrhyw amgylchiadau ar unrhyw adeg.”

Ond fe wadodd fod y fath sylwadau’n gyffredin o fewn y blaid.

“Mae’n arwydd o sylw gwael a wnaeth e o dan amgylchiadau penodol.

“Dw i’n arwain plaid sydd â mwy o aelodau seneddol benywaidd na’r holl bleidiau eraill gyda’i gilydd, ac mae gyda ni fwy o restrau byrion ar y gweill sy’n cynnwys menywod yn unig.”

Beirniadaeth

Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu sylwadau Clive Lewis mae cyn-ddirprwy arweinydd Llafur, Harriet Harman, a ddywedodd fod y sylwadau’n “anesboniadwy, anesgusodol”.

Dywedodd cadeirydd menywod Llafur, Jess Phillips ei bod hi “wedi ffieiddio” gan y sylwadau, a chytunodd y cyn-weinidog Yvette Cooper a’r aelod seneddol Stella Creasy.