Mae llythyr a gafodd ei ysgrifennu ddiwrnod yn unig cyn i long y Titanic suddo wedi cael ei werthu am £126,000 mewn ocsiwn.
Cafodd ei ysgrifennu ar bapur y llong gan Alexander Oskar Holverson ar Ebrill 13, 1912.
Ei fwriad oedd anfon y llythyr at ei fam yn Efrog Newydd.
Roedd e ymhlith mwy na 1,500 o deithwyr fu farw ar fwrdd y llong ar Ebrill 14, 1912.
Cafodd y llythyr ei ddarganfod mewn llyfr nodiadau pan ddaethpwyd o hyd i’w gorff.
Cafodd ocsiwn o eitemau’r Titanic ei gynal yn Swydd Wiltshire heddiw.
Dywedodd yr arwerthwr Andrew Aldridge fod y gwerthiant yn record byd newydd, a hynny am “y llythyr Titanic pwysicaf erioed i ni ei werthu”.