Mae ail lanc wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn 20 oed y tu allan i orsaf danddaearol Parsons Green yn Llundain ddydd Llun.

Cafodd Omid Saidy ei drywanu i farwolaeth ddydd Llun.

Mae Shafiq Smith, 18 o dde-orllewin Llundain, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o geisio llofruddio ac o fygwth rhywun ag arf finiog mewn lle cyhoeddus.

Mae e wedi’i gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon yn Wimbledon heddiw.

Cefndir

Digwyddodd yr ymosodiad yn yr un ardal ag y cafodd 30 o bobol eu hanafu mewn ymosodiad brawychol fis diwethaf.

Mae lle i gredu bod Omid Saidy wedi cael ei drywanu ar ôl gofyn i ddau ddyn adael yr ardal.

Cyhuddo sawl person arall

Mae llanc 16 oed nad oes modd ei enwi wedi’i gyhuddo o lofruddio ac o fygwth dyn arall â chyllell.

Aeth gerbron llys ieuenctid yn Wimbledon ddydd Iau, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa tan ddydd Llun, pan fydd yn mynd gerbron yr Old Bailey.

Mae dyn 18 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ac mae e wedi cael ei arestio yn dilyn y ffrwgwd.

Cafodd dwy ddynes a dyn arall eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ond maen nhw wedi cael eu rhyddhau wrth i’r ymchwiliad barhau.