(Llun: Canolfan Ofod NASA Goddard CCA2.0)
Mae degau ar filoedd o gartrefi yng Ngweriniaeth Iweddon yn parhau heb drydan a dŵr ar ôl Storm Ophelia ddechrau’r wythnos.

Yn ôl y ffigyrau, mae tua 130,000 o gartrefi heb drydan, a 48,000 heb gyflenwad dŵr, gyda’r mwyafrif o’r rheiny yn ne’r wlad – o Wexford i Skibbereen yn Swydd Cork.

Mae bwrdd cyflenwad ynni’r Weriniaeth, ESB Network, wedi rhybuddio y gall y broses o ailgysylltu cartrefi gyda thrydan gymryd “diwrnodau”.

Er hyn, mae tua 255,000 o’r rheiny sydd wedi bod heb drydan ers dydd Llun eisoes wedi cael eu ailgysylltu.

Mae’r rheiny sydd mewn ardaloedd lle mae dŵr yn brin wedi cael eu cynghori i ddefnyddio eu cyflwenad dŵr yn synhwyrol, wrth i gronfeydd dŵr ail-lenwi a systemau pympio gael eu hatgyweirio.

Roedd Storm Orphelia, a welodd gwyntoedd yn cyrraedd cyflymdra o 109 milltir yr awr, wedi taro Iwerddon a rhannau o Gymru, Lloegr a’r Alban drwy gydol dydd Llun.

Dyma’r storm waethaf i daro ynysoedd Prydain ers degawd, a bu tri pherson farw yn Iwerddon o’i chanlyniad.