(llun: PA)
Mae pobol ifanc yn flin gyda’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn beio’r cenedlaethau hyn i raddau helaeth am y canlyniad, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r dadansoddiad gan y London School of Economics ar ran grwp o Aelodau Seneddol yn dangos “pryder mawr” am “effaith negyddol” y refferendwm y llynedd.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ganfyddiadau 40 o grwpiau ffocws ac arolwg o fwy na 3,200 o bobol ifanc.

“Mae pobol ifanc yn ein hastudiaeth yn bryderus am effaith negyddol Brexit ar gymunedau aml-ethnig o ran anoddefgarwch cynyddol, gwahaniaethu a hiliaeth yn y gymdeithas yng ngwledydd Prydain, a dirywiad y ddelwedd o Brydain fel gwlad oddefgar ac aml-ddiwylliannol,” medd yr adroddiad.