Mae naw o ferched – tair ohonyn nhw’n 11 oed – wedi dioddef ymosodiadau rhyw yn ardaloedd Greenwich a Lewisham yn Llundain yn ystod y tri mis diwethaf – ac mae’r heddlu bellach yn credu mai’r un dyn sy’n gyfrifol am bob un ohonyn nhw.

Mae dwy ddynes 27 a 25 oed, a saith o blant 11 a 13 oed, wedi riportio cael dyn yn dod atyn nhw ac aflonyddu’n rhywiol â nhw, cyn dianc ar droed.

Mae pob un o’r naw ymosodiad wedi digwydd yng ngolau dydd rhwng Mehefin 30 a Hydref 16, gyda thri ohonyn nhw’n digwydd o fewn hanner awr ar Hydref 5. Mae Heddlu’r Met wedi cadarnhau eu bod nhw’n creu bod cysylltiad rhwng yr ymosodiadau.

Mae Scotland Yard yn dweud eu bod nhw wedi cynyddu nifer yr heddweision sydd ar batrol yn yr ardaloedd dan sylw.