James Reed (o wefan ei gwmni)
Mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y swyddi gwag mewn cartrefi a gwasanaethau gofal yn ôl gwasanaeth recriwtio.

Brexit yw rhan o’r rheswm, wrth i fwy a mwy o weithwyr o weddill yr Undeb Ewropeaidd adael gwledydd Prydain.

Yn ôl gwefan reed.co.uk, fe fu cynnydd o 64% yn nifer yr hysbysebion swyddi gofal o gymharu â’r un amser y llynedd – o ychydig tros 6,500 ym mis Medi 2016 i fwy na 10,700 y mis Medi yma.

‘Storm berffaith’

“Mae yna storm berffaith ar y gorwel,” yn ôl Cadeirydd y gwasanaeth, James Reed. “Poblogaeth sy’n heneiddio, gweithwyr o Ewrop yn ansicr tros gymryd neu gadw swyddi yma, un canghellor ar ôl y llall eisiau talu eu ffordd a chyflogau hanesyddol o isel.”

Fe ddywedodd y byddai’n rhaid i gyflogwyr ystyried codi cyflogau a sylweddoli bod hwn yn sector twf pwysig a allai gynnig cyfleoedd mawr.

Mae ofn argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd hefyd gydag adroddiadau bod 10,000 o weithwyr Ewropeaidd ar bob lefel wedi gadael ers y bleidlais i adael yr Undeb.

Mae nifer y nyrsys sy’n dod i wledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd hefyd wedi syrthio’n sylweddol – tua 90% yn ôl y wefan.