Llun: PA
Mae cyfradd chwyddiant wedi codi i’w lefel uchaf ers pum mlynedd, sef 3% ym mis Medi.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos fod Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, wedi codi i 3% o gymharu â 2.9% ym mis Awst.

Y tro diwethaf iddo gyrraedd y ffigwr hwn oedd ym mis Ebrill 2012, gyda chwyddiant ar ei uchaf ym mis Mawrth y flwyddyn honno, sef 3.5%.

Yn ôl adroddiadau, cynnydd ym mhrisiau nwyddau bob dydd o ganlyniad i effaith Brexit ar y bunt sydd i gyfrif am y gyfradd.

“Mae prisiau bwyd ac ystod o gostau trafnidiaeth wedi cynorthwyo at gynyddu chwyddiant ym mis Medi,” meddai Mike Prestwood, Cyfarwyddwr Chwyddiant ONS.

Mae Llywodraeth Prydain wedi gosod targed o 2% i lefel chwyddiant gyda chyfarwyddyd i Lywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, ysgrifennu llythyr at y Canghellor os yw chwyddiant yn codi’n uwch na 3% neu’n is na 1%.