Fe allai gyrwyr peryglus wynebu oes o garchar yn ôl cynlluniau newydd sy’n cael eu hystyried gan Lywodraeth Prydain.

Ymhlith y rhai a allai gael eu cosbi’n llymach mae gyrwyr sy’n achosi marwolaeth drwy or-yrru, gyrwyr sy’n rasio ar y stryd neu’n defnyddio ffôn symudol wrth y llyw.

Roedd miloedd o bobol wedi cefnogi’r cynlluniau pan gafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal fis Rhagfyr y llynedd.

Yn ôl y cynlluniau newydd, fe fydd unrhyw un sy’n euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau’n wynebu oes o garchar.

Mae disgwyl cyflwyno dedfryd am drosedd newydd hefyd, sef achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n ddiofal.

‘Difetha bywydau’

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Dominic Raab: “Rydym wedi edrych yn fanwl ar ddedfrydau gyrru, ac fe wnaethon ni dderbyn 9,900 o ymatebion i’n hymgynghoriad.

“Yn seiliedig ar ddifrifoldeb yr achosion gwaethaf, y boen i deuluoedd dioddefwyr a’r ddedfryd fwyaf am droseddau difrifol eraill megis dynladdiad, rydym yn bwriadu cyflwyno dedfryd o oes o garchar i’r rhai sy’n difetha bywydau drwy yrru’n beryglus, gyrru tra eu bod nhw wedi meddwi neu ar ôl cymryd cyffuriau.”

Ychwanegodd fod y ddedfryd ar gyfer y drosedd newydd o achosi anafiadau difrifol yn “llenwi bwlch yn y gyfraith ac yn adlewyrchu difrifoldeb rhai o’r anafiadau sy’n wynebu dioddefwyr yn y categori hwn”.

Ymgynghoriad

Yn ôl yr ymgynghoriad, roedd 90% o ymatebion o blaid y ddedfryd newydd, a 70% yn credu y dylid cynyddu’r ddedfryd fwyaf ar gyfer achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus o 14 o flynyddoedd dan glo i oes o garchar.

Roedd y rhan fwyaf hefyd yn cefnogi oes o garchar am achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Yn 2016, cafodd 157 o bobol eu dedfrydu am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, a 32 o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Croesawu’r cynlluniau

Mae ymgyrchwyr Brake wedi croesawu’r cynlluniau newydd fel “buddugoliaeth fawr i deuluoedd dioddefwyr”.

Dywedodd llefarydd fod y gyfraith hyd yma “wedi bod yn erbyn miloedd o deuluoedd y mae eu bywydau wedi’u rhwygo’n ddarnau gan weithredoedd gyrwyr sydd wedi torri’r gyfraith”.