Mae adroddiadau heddiw fod y wraig o wledydd Prydain a fu’n recriwtio ar ran ISIS, wedi cael ei lladd yn Syria.

Fe fu Sally Jones o Chatham yng Nghaint ar un adeg yn dilyn cerddoriaeth bync, ond fe aeth hi a’i mab i fyw i Syria yn 2013. Ac yno, fe ddaeth hi – dan yr enw ‘White Widow’ – yn enwog am recriwtio aelodau i’r grwp brawychol.

Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau heddiw i Sally Jones gael ei lladd yn agos i’r ffin rhwng Irac a Syria, a hynny wrth iddi geisio dianc o ddinas Raqqa.

Roedd hi wedi gadael gwledydd Prydain, ynghyd â’i chariad, Junaid Hussain, bedair blynedd yn ôl, gan fynd â’i mab naw mlwydd oed ar y pryd, JoJo, gyda hi.

Mae’r bachgen hwnnw bellach yn 12 oed ac yn ateb i’r enw ‘Hamza’. Dyw hi ddim yn glir a gafodd ef ei ladd yn yr ymosodiad.